Cefnogi gofalwyr sy’n gofalu am rywun â dementia

CymraegEnglish

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru wedi cyhoeddi Gofalu am rywun â dementia: Canllaw i deuluoedd a ffrindiau, sef adnodd cynhwysfawr sy’n cyfuno gwybodaeth ymarferol a chyfarwyddyd emosiynol sydd eu hangen ar ofalwyr i gefnogi eu llesiant eu hunain.

Mae dementia yn syndrom sy’n effeithio ar yr ymennydd ac mae’n gallu achosi rhywun i golli cof, i gael problemau â chyfathrebu a chael newidiadau yn ei hwyliau.

Mae dros 60% o’r 48,100¹ o bobl sydd â dementia yng Nghymru’n byw yn y gymuned ac maen nhw’n dibynnu ar aelodau’r teulu neu ffrindiau i’w helpu â thasgau o ddydd i ddydd, fel coginio, gwisgo a chymryd meddyginiaeth.

Mae gofalu am rywun â dementia yn aml yn foddhaus ond mae’n gallu effeithio ar iechyd a llesiant, cyflogaeth a pherthnasoedd personol y gofalwr. Mae gan bron hanner gofalwyr pobl â dementia eu clefyd hirhoedlog neu eu hanabledd eu hunain hefyd².

Mae’r coronafeirws a’r cyfyngiadau ar symud wedi golygu caledi mwy fyth i ofalwyr di-dâl, gyda theuluoedd yn dweud mai teimlo eu bod ar eu pennau eu hunain, gorflinder, pryderon ariannol ac iechyd meddwl gwael oedd y pethau a oedd yn achosi’r pryderon mwyaf iddyn nhw.

Mae gan ofalwyr hawl i gael bywyd ochr yn ochr â gofalu, hawl i ddweud eu dweud a hawl i wybodaeth, cyngor a chymorth. Gall gofalwyr droi at Bartneriaid Rhwydwaith yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr a llu o sefydliadau a grwpiau i gael cefnogaeth ar gyfer eu llesiant, i gael hoe fach neu ofal seibiant, neu i’ch helpu trwy argyfwng.

Lawrlwythwch Gofalu am rywun â dementia: Canllaw i deuluoedd a ffrindiau sy’n gofalu am rywun â dementia.

¹ www.alzheimers.org.uk
² www.dementiastatistics.org