Amser Cronfa Seibiannau Byr: Disgrifiad o Rôl Asesydd Annibynnol

CymraegEnglish

Trosolwg

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu grant tair blynedd o 2022 i 2025 ar gyfer Cynllun Seibiannau Byr cenedlaethol ar gyfer gofalwyr di-dâl sy’n ceisio creu mwy o gyfleoedd i ofalwyr di-dâl gymryd seibiant o’u cyfrifoldebau gofalu.

Yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr yw’r corff cydlynu Cenedlaethol ar gyfer y Cynllun hwn, ac fel rhan o hynny mae’n sefydlu cronfa grantiau newydd o’r enw Amser yn ogystal â chefnogi Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i ddosbarthu’r arian ar gyfer seibiannau byr.

Bydd rhaglen Amser yn dosbarthu tua £3.8m i fudiadau trydydd sector i ddarparu cyfleoedd seibiannau byr wedi’u targedu ar gyfer gofalwyr di-dâl ledled Cymru. Bydd yr arian yn cwmpasu blynyddoedd ariannol 2022-23 a 2023-24, a chynhelir y cylch dyrannu cyntaf rhwng Ionawr – Mawrth 2023.

Prif nodau rhaglen Amser yw:

  • Darparu mwy o seibiannau byr ar gyfer mwy o ofalwyr di-dâl
  • Darparu dewis o seibiannau personol, hyblyg ac ymatebol ar gyfer gofalwyr di-dâl
  • Blaenoriaethu a thargedu seibiannau byr at ofalwyr di-dâl sydd eu hangen fwyaf.

Trwy ddarpariaeth leol, mae rhaglen Amser yn gobeithio cyflawni’r tri deilliant canlynol ar gyfer gofalwyr di-dâl ledled Cymru:

  • Bydd llesiant gofalwyr a’r sawl maen nhw’n gofalu amdanynt yn gwella
  • Bydd gofalwyr yn fwy cydnerth ac abl i gynnal y berthynas ofalu
  • Bydd y Trydydd Sector yn fwy abl i ddarparu seibiannau ataliol, ymatebol i ofalwyr di-dâl

Bydd Amser yn gweithio gyda Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol sydd wedi derbyn tua £4.3 miliwn i gefnogi gofalwyr di-dâl trwy drefnu seibiannau byr yn eu rhanbarthau ar draws blynyddoedd ariannol 2021-22, 2022-23 a 2023-24. Maent yn rhannu’r un nodau a deilliannau ond maent yn gyfrifol am ddyrannu eu harian eu hunain.

Mae’r pecyn cais ar gyfer Amser ar gael yma. Mae hwn yn cynnwys mwy o fanylion am y nodau, deilliannau a meini prawf ar gyfer yr arian.

Rôl Asesydd Annibynnol

Mae rôl asesydd annibynnol yn rhan bwysig o broses gwneud penderfyniadau Amser, gan gynnig mewnwelediad annibynnol ac asesiad gwrthrychol o’r ceisiadau a dderbyniwn. Byddwch yn edrych drwy ddeunyddiau ceisiadau ac yn gwneud dadansoddiad gwybodus a gwrthrychol o’r wybodaeth a ddarparwyd ac yn asesu pa mor dda mae’r cais yn bodloni meini prawf ariannu Amser. Ar sail hyn bydd aseswyr yn gwneud argymhelliad ariannu fydd yn cael ei adolygu gan banel grantiau ymgynghorol annibynnol sy’n cael ei sefydlu i gefnogi’r broses gwneud penderfyniadau.

Mae disgwyl i bob asesydd ddangos tegwch ac amhleidioldeb trwy gydol y broses asesu, a sicrhau nad yw eu hargymhelliad terfynol ond yn seiliedig ar arfarniad gwrthrychol o’r wybodaeth sydd ar gael. Mae disgwyl i aseswyr ymddwyn mewn ffordd gyfeillgar a phroffesiynol, parchu cyfrinachedd a thrafod unrhyw gwestiynau neu bryderon gyda thîm rhaglen Amser.

Rhaid i aseswyr gadw at drefn Buddiannau Croes yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr a llenwi datganiad o fuddiannau cyn pob cylch asesu. Hefyd, rhaid i aseswyr lofnodi cytundeb is-gontractwr.

Bydd y cyfrifoldebau penodol yn cynnwys:

  • Cymryd rhan mewn hyfforddiant ac ymgyfarwyddo â meini prawf a deunyddiau gwneud cais Amser.
  • Gofalu eich bod yn datgan buddiannau croes posib, ac os oes rhai yn codi yn yr asesiadau a roddir ichi, rhoi gwybod am hynny’n syth i dîm rhaglen Amser.
  • Bod yn ymatebol a hyblyg wrth wneud asesiadau o fewn y cyfnod amser a fwriedir gan y gronfa.
  • Adolygu’r ceisiadau grant a ddyfarnwyd a pharatoi ar gyfer galwad ffôn asesu.
  • Cefnogi ymgeisyddion, ar y ffôn a thrwy e-bost, i ddarparu mwy o wybodaeth am eu ceisiadau.
  • Asesu cryfderau a gwendidau’r cais ac i ba raddau y mae’n gweddu â nodau a deilliannau Amser;
  • Darparu adroddiadau asesu dadansoddol, gwrthrychol ac wedi’u hysgrifennu’n glir fydd yn cael eu hadolygu gan y panel grantiau ymgynghorol.
  • Gwneud argymhellion ar geisiadau, gan nodi unrhyw newidiadau i gyllidebau sy’n digwydd yn ystod yr asesiad.

Dylech gofio fod y cyfnod asesu rhwng 9 Chwefror a 6 Mawrth. Bydd angen ichi fod ar gael yn ystod y cyfnod hwn a mynychu hyfforddiant ar-lein ar ddydd Gwener 3 Chwefror 2023.

Proffil Asesydd – beth allwch gynnig i’r rôl

Bydd aseswyr yn cynnig ystod o brofiadau a safbwyntiau i’r broses asesu. Mae profiad o asesu grantiau yn ddymunol ond nid yn hanfodol. Rydym yn chwilio am ymgeisyddion sy’n gallu cynnig:

  • Dealltwriaeth o’r angen i ofalwyr gael seibiant o ofalu – naill ai trwy brofiad bywyd neu mewn cyd-destun proffesiynol;
  • Ymrwymiad i sicrhau bod y gofalwyr hynny sydd fwyaf eu hangen yn gallu cael seibiant;
  • Gwybodaeth am y trydydd sector yng Nghymru a’i rôl yn cefnogi gofalwyr;
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar dadansoddol rhagorol;
  • Y gallu i ddarllen a dadansoddi darnau o wybodaeth ysgrifenedig a gwneud arfarniadau arnynt;
  • Y gallu i gynnal sgyrsiau strwythuredig sy’n arwain at well mewnwelediad a dealltwriaeth;
  • Y gallu i weithio’n annibynnol, ond o fewn fframwaith a gytunwyd;
  • Y gallu i ysgrifennu adroddiadau clir a chryno;
  • Y gallu i gadw at gyfyngiadau amser y cyfnod asesu

Rydym yn awyddus i gael casgliad amrywiol o aseswyr, fydd yn cynnig eu hamrywiol brofiadau unigryw i broses gwneud penderfyniadau Amser.

Beth all yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr ei gynnig ichi

Byddwn yn cynnig hyfforddiant ichi er mwyn ichi allu cyflawni’r rôl hon ac fe gewch brofiad o ddyfarnu grantiau yn y rhaglen ariannu newydd ac unigryw hon. Fe gewch hefyd y cyfle i ryngweithio gydag ystod eang o fudiadau trydydd sector sy’n cefnogi gofalwyr ar draws Cymru.

Bydd tîm pwrpasol yn cefnogi aseswyr trwy gydol y cyfnod asesu, gan ymateb i unrhyw ymholiadau allai fod gennych.

Bydd aseswyr yn derbyn £75 am bob asesiad a £75 ar gyfer mynychu’r hyfforddiant gorfodol. Bydd angen i aseswyr gofrestru ar gyfer eu treth a’u hyswiriant gwladol eu hunain, bydd angen ffôn a chyfrifiadur ar gael iddynt a bydd angen iddynt allu cwblhau asesiadau yn unol â gofynion GDPR yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr

Sut i Wneud Cais

Er mwyn gwneud cais e-bostiwch lythyr cais yn esbonio sut rydych yn bodloni gofynion y disgrifiad rôl a chopi o’ch CV at shortbreakswales@carers.org

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y rôl, danfonwch e-bost at Ellie -  elogan@carers.org

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10am ar ddydd Iau 26 Ionawr a chynhelir cyfweliadau anffurfiol ar ddydd Mawrth 31 Ionawr.