Mwy am ofalwyr ifanc

CymraegEnglish

Gofalydd ifanc yw rhywun 25 oed neu iau sy'n gofalu am ffrind neu aelod o'r teulu na all, oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu gorddibyniaeth, ymdopi heb eu cefnogaeth. Mae gofalwyr ifanc hŷn hefyd yn cael eu galw'n oedolion ifanc sy’n ofalwyr ac efallai bod ganddyn nhw anghenion cymorth gwahanol i ofalwyr iau.

Merch ifanc yn darllen i fachgen ifanc

Beth allai gofalydd ifanc ei wneud?

  • Tasgau ymarferol, fel coginio, gwaith tŷ a siopa.
  • Gofal corfforol, fel helpu rhywun i godi o’r gwely.
  • Cefnogaeth emosiynol, gan gynnwys siarad â rhywun sy’n teimlo’n ddiflas.
  • Gofal personol, fel helpu rhywun i wisgo.
  • Rheoli cyllideb y teulu a chasglu rhagnodiadau.
  • Helpu rhoi meddyginiaeth. 
  • Helpu rhywun i gyfathrebu.
  • Gofalu am frodyr a chwiorydd.

Faint o ofalwyr ifanc sydd yna?

  • Dangosodd Cyfrifiad 2011 fod 177,918 o gofalwyr ifanc yng Nghymru a Lloegr. Roedd un o bob wyth ohonynt o dan wyth oed.
  • Mae Llywodraeth yr Alban yn cydnabod bod o leiaf 29,000 o ofalwyr ifanc yn yr Alban.
  • Y gred gyffredinol yw fod mwy i hyn nac a welir, ac mae rhai amcangyfrifon yn awgrymu fod cymaint ag un plentyn ysgol o bob pump yn ofalwyr ifanc  (Prifysgol Nottingham 2018), ac mae’r nifer hwn wedi cynyddu yn ystod pandemig COVID-19.

Gall bod yn ofalydd ifanc gael effaith fawr ar y pethau sy’n bwysig wrth dyfu i fyny

  • Mae gofalwyr ifanc eisoes yn debygol o gael cyraeddiadau addysgol cryn dipyn yn is na’u cyfoedion.
  • Gyda chymhlethdodau ychwanegol COVID-19, mae gofalwyr ifanc wedi colli hyd yn oed yn fwy o’r ysgol nac o’r blaen ac mae angen cefnogaeth frys os ydynt yn mynd i osgoi llusgo y tu ôl i’w cyfoedion.
  • Gall gofalu hefyd fod yn brofiad unig ond gall cael y gefnogaeth gywir yn ei le roi gwell cyfle i ofalwyr ifanc lwyddo ym mhob rhan o'u bywydau.

Sut rydym yn cefnogi gofalwyr ifanc

Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc

Mae Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc yn ddigwyddiad blynyddol a arweinir gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr. Mae’n codi ymwybyddiaeth ac yn galw am weithredu i roi mwy o gymorth i bobl ifanc a chanddynt gyfrifolfdebau gofalu. Ar Ddiwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc 2022, rydym yn galw ar bob llywodraeth ar draws gwledydd Prydain i ymrwymo i gymryd camau i leihau unigedd gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr gan gynnwys mynediad i seibiannau byr. Mae'r rhain yn bwysig wrth ddarparu rhyddid rhag cyfrifoldebau gofalu, ynghyd â lleihau unigedd a hyrwyddo lles.

Gwasanaethau arbenigol ar gyfer gofalwyr ifanc

Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn helpu gofalwyr ifanc i ymdopi â’u rôl ofalu trwy wasanaethau arbenigol a ddarperir gan Bartneriaid Rhwydwaith yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr ledled gwledydd Prydain. Maent yn elusennau annibynnol. Mae’r gweithgareddau a gynigir yn gynnwys:

  • Gweithgareddau ac egwylion.
  • Cefnogaeth gan gyfoedion ac yn y gymuned, gan gynnwys grwpiau gofalwyr ifanc a chynlluniau mentora cyfoedion.
  • Gwybodaeth, cyngor ac arweiniad, gan gynnwys cefnogaeth un ac un a gwybodaeth oed briodol.
  • Cefnogaeth emosiynol.
  • Eiriolaeth.
  • Brocera a chynllunio cefnogaeth.
  • Hyfforddiant mewn meysydd fel iechyd a diogelwch, llesiant a sgiliau bywyd.
  • Cefnogi teuluoedd a gofalwyr ifanc i wneud cais am fudd-daliadau priodol.
  • Cymorth cynllunio brys.
  • Cefnogaeth i’r teulu cyfan.
  • Cynnwys gofalwyr ifanc wrth ddatblygu gwasanaethau.

Rwyf yn credu y gallwn fod yn ofalydd ifanc neu’n oedolyn ifanc sy’n ofalydd, ble alla i fynd i gael cefnogaeth?

Mae cyfrifoldebau gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr yn amrywio’n fawr, felly efallai y byddwch yn gymwys i gael cefnogaeth, hyd yn oed os nad ydych yn teimlo eich bod yn gwneud llawer o ofalu. Os ydych yn credu y gallech fod yn ofalydd ifanc neu’n oedolyn ifanc sy’n ofalydd, cysylltwch â’ch gwasanaeth gofalwyr lleol. Bydd gweithwyr cymorth yn gallu gofalu y cewch y cymorth sydd ei angen arnoch.